
Cofrestrwch i gymryd rhan yn ein hymgyrch
Oes gennych chi ddementia neu'n gofalu am rywun sydd â dementia?
Ydych chi'n gweithio mewn gwasanaethau dementia neu'n adnabod pobl sydd wedi'u heffeithio gan ddementia?
Mae profiad pawb o ddementia yn wahanol – p'un a ydych wedi cael profiad byw gyda dementia, yn gofalu am rywun â dementia, yn gweithio mewn gwasanaethau o ddydd i ddydd, neu'n rhan o'r gymuned leol.
Bellach mae set o safonau ar waith i wneud gofal a chymorth dementia yn well. Enw hwn yw ‘Llwybr Safonau Gofal Dementia Cymru Gyfan’.
Fel Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, hoffem glywed eich profiadau fel y gallwn wella pethau yn y dyfodol a sicrhau bod Safonau Llwybrau Gofal Dementia Cymru Gyfan yn cael eu bodloni.
Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb ar y cyd am wneud yn siŵr bod y bobl y mae dementia yn effeithio arnynt yn cael profiad cadarnhaol o dderbyn gofal a chymorth.
Drwy gofrestru gallwch helpu i siapio’r ffordd y mae gofal a chymorth yn edrych ar gyfer pobl â dementia, gofalwyr a’u teuluoedd.
Pan fyddwn ni i gyd yn dod at ein gilydd, rydyn ni'n gwneud pethau'n well i bawb.